Gwybodaeth bellach

Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Dyna pam ‘da ni isio i chi ddweud wrtho’ ni os ‘da ni wedi amlygu’r pethau sy’n  wirioneddol bwysig i chi.

Mae ‘na gynlluniau di-ri. Ydi Wrecsam wir angen un arall?

Wel ydi. Nod ‘Y Wrecsam ‘Da Ni Isio’ ydi creu rhywle da’ ni i gyd isio byw ynddo – rŵan ac yn y dyfodol.

Fel gweddill y DU, ‘da ni’n wynebu nifer o heriau mawr yng Nghymru. Pethau fel tlodi, problemau economaidd, poblogaeth sy’n heneiddio a newid yn yr hinsawdd.

Felly mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gyfraith newydd sy’n ceisio annog gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau i gydweithio er mwyn taclo’r heriau hyn a gwella dyfodol hirdymor Cymru.

Mae’r Ddeddf yn rhoi sylw i bethau fel cyflogaeth, yr amgylchedd, iechyd, cydraddoldeb, cymunedau, diwylliant, yr iaith Gymraeg a’n heffaith o amgylch y byd.

Gwneud i hyn ddigwydd

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam (BGC Wrecsam) ydi’r grym y tu ôl i’r cynllun.

‘Da ni’n bartneriaeth sy’n cynnwys llawer o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar draws y fwrdeistref sirol.

Er enghraifft y Cyngor, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau tân ac achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu, y Gwasanaeth Prawf. Prifysgol Glyndŵr, Choleg Cambria, AVOW a Llywodraeth Cymru.

‘Da ni isio gweithio efo pobl leol i ddatblygu’r cynllun hirdymor hwn ar gyfer Wrecsam a helpu i roi Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith yn ymarferol.

Dysgu mwy

Dysgwch fwy am be’ mae’r BGC yn ei wneud a pham.

Edrychwch ar y fideo byr yma, neu darllenwch un o’r dogfennau cryno hyn am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). 

Dogfennau cryno

Yr hanfodion

Nodiadau ar gyfer pobl ifanc

Mae’r ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru yn un Hawdd ei Deall