Ar 1 Ebrill 2016, daeth Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i rym. Dyluniwyd y ddeddfwriaeth i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Yn sail i’r Ddeddf mae:
- Saith nod lles.
Yn gosod gweledigaeth gyson i’r ‘Y Gymru A Garem’, tdyma’r amcanion y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf geisio eu cyflawni.
Cymru ffyniannus
Cymru wydn
Cymru sydd yn fwy iach
Cymru sydd yn fwy cyfartal
Cymru sydd â chymunedau cydlynol
Cymru gyda diwylliant bywiog a’r iaith Gymraeg yn ffynnu
Cymru gyfrifol fyd-eang
- Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.
Pum ffactor y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus eu hystyried wrth benderfynu sut i gyflawni’r nodau lles orau.
Hirdymor
Atal
Integreiddio
Cydweithio
Cysylltiad
Dan y Ddeddf, mae gofyn i bob awdurdod lleol sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Bydd y BGC yn cyfrannu i gyflawni’r nodau lles drwy:
- GDan y Ddeddf, mae gofyn i bob awdurdod lleol sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Bydd y BGC yn cyfrannu i gyflawni’r nodau lles drwy
- Penderfynu lle, ar y cyd, mae’r bwrdd yn debygol o wneud y camau mwyaf tuag at y nodau lles.
- Cyhoeddi a gweithredu cynllun lles sy’n nodi’n fanwl y rhan y bydd y bwrdd yn ei chwarae wrth gyflawni’r nodau.
‘Yr hanfodion’ gan Lywodraeth Cymru yn rhoi trosolwg o’r Ddeddf, gan gynnwys pa wasanaethau cyhoeddus a gynrychiolir ar y BGC.
Bydd cofnodion a newyddion BGC Wrecsam yn cael eu rhannu ar y wefan hon yn dilyn cyfarfod cyntaf y bwrdd ym Mehefin 2016. Bydd y bwrdd yn cyfarfod bob chwarter.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Odunaiya, Arweinydd Partneriaethau, Tîm PGPh, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ar helen.odunaiya@wrexham.gov.uk, neu 01978 292273.