Hoffech chi chwarae rhan yn y gwaith o wella Wrecsam?
Sut hoffech chi i Wrecsam fod ar eich cyfer chi eich hun, eich teulu, a chenedlaethau’r dyfodol?
Mae gennych gyfle i wneud gwahaniaeth, i ddweud eich dweud, a dweud wrthym sut yr hoffech chi i Wrecsam fod yn y dyfodol. Llenwch ein harolwg Ein Wrecsam Ni, Ein Dyfodol Ni a bydd yr atebion a roddwch, ynghyd ag ymchwil a data, yn cael eu defnyddio i greu asesiad llesiant, a fydd yn y dyfodol yn llywio ein cynllun llesiant. Bydd y cynllun hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio i wneud newidiadau a llywio penderfyniadau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Ein Wrexham Ni, Ein Dyfodol Ni
Mae BGC Wrecsam wedi cymeradwyo eu cynllun Lles lleol a gellir dod o hyd i gopi yma.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam Adroddiad Blynyddol 2019-20
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam 2020-21
Llesiant
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam yn gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ar hyn o bryd ar sut gall sefydliadau partner, budd-ddeiliaid a’n cymunedau feithrin cadernid wrth i ni adfer ar ôl COVID 19.
Mae’r prosiect adfer ar y cyd yn edrych ar bedair thema:
- Plant a Phobl Ifanc
- Yr Amgylchedd a Charbon
- Iechyd Meddwl a Lles
- Tlodi ac Anghydraddoldeb