Amdanom Ni

Pwrpas Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam yw gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r bwrdd yn gorff statudol a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2016.

Yn unol â’r pwrpas hwn, bydd y Bwrdd yn cyfrannu at saith nod lles cenedlaethol, fel y nodir yn Neddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):

  • Cymru ffyniannus
  • Cymru wydn
  • Cymru sydd yn fwy iach
  • Cymru sydd yn fwy cyfartal
  • Cymru sydd â chymunedau cydlynol
  • Cymru gyda diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus.
  • Cymru gyfrifol fyd-eang

Yn gyntaf, mae gan y Bwrdd bedwar prif dasg:

  • Paratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol bwrdeistref sirol Wrecsam.
  • Paratoi a chyhoeddi Cynllun Lles Lleol i Fwrdeistref Sirol Wrecsam yn gosod nodau lleol a’r camau y mae’n ei gynnig i’w cyrraedd.
  • Cymryd yr holl gamau rhesymol i gyflawni amcanion lleol.
  • Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n nodi cynnydd y Bwrdd tuag at gyflawni’r amcanion lleol.

Egwyddorion

Datblygiad cynaliadwy yw’r egwyddor bwysicaf yng ngweithgareddau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam. Mae hyn yn golygu bod angen gweithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion presennol yn cael eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Cyfarfodydd wedi eu trefnu a chofnodion

Mae Eich Llais – Wrecsam yn rhoi cyfle i’r sawl sy’n gweithio, yn byw, yn derbyn neu’n darparu gwasanaethau yn y sir i ddweud eu dweud a dylanwadu ar wasanaethau lleol.

www.yourvoicewrexham.net